Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/

Prif Weithredwr GIG Cymru

Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Director General Health and Social Services/

NHS Wales Chief Executive

Health and Social Services Group

Huw Vaughan Thomas

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

6 Mawrth 2018

Annwyl Huw

Yn dilyn fy llythyr dyddiedig 22 Ionawr 2018, dyma fy ymateb llawn, sy'n seiliedig ar ymgynghoriad ehangach gyda GIG Cymru.

Hoffwn ddiolch i chi unwaith eto am eich adroddiad ar systemau gwybodeg GIG Cymru a'r gwaith y mae tîm yr astudiaeth wedi ei wneud ar hyn dros y 18 mis diwethaf.

Rwy'n falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod bod gan GIG Cymru weledigaeth glir ar gyfer y cofnod cleifion electronig yng Nghymru, ac er fy mod yn cydnabod ein bod yn wynebu rhai heriau, rwy'n hyderus ein bod wedi gwneud cynnydd sylweddol, hyd yn oed yn yr amser ers i'ch tîm gynnal yr adolygiad, ac y byddwn yn parhau i ysgogi gwelliannau yn y dyfodol.

Rydym yn cydnabod y canfyddiadau allweddol sy'n ymwneud â'r anawsterau o ran sicrhau digon o gyllid i fwrw ymlaen â'r weledigaeth; yr angen i gryfhau prosesau blaenoriaethu; a'r angen i adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (y Gwasanaeth Gwybodeg).  Mae'r adroddiad yn cymeradwyo llawer o'r gwaith sydd gennym ar y gweill.

Mae Argymhelliad 7 Adroddiad Terfynol yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal

Cymdeithasol yng Nghymru yn ategu nifer o ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru, ac yn hynny o beth bydd y camau a gymerwn yn dilyn eich adroddiad hefyd yn cael eu llywio gan ein hymateb i'r Adolygiad Seneddol.  Bydd ein Cynllun Hirdymor ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gaiff ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2018, yn nodi'r camau y byddwn yn eu cymryd - a'r camau y disgwyliwn i bartneriaid y GIG a gofal cymdeithasol eu cymryd - i wneud y defnydd gorau o wybodeg a ffyrdd digidol o weithio'n fwy cyffredinol.

Ffôn  Tel 0300 0258047

                                                                                                       Parc Cathays Cathays Park                   Andrew.Goodall@gov.wales

Caerdydd Cardiff

                                                                                                                                     CF10 3NQ    Gwefan website: www.wales.gov.uk

Rydym yn croesawu canfyddiadau'r adroddiad ac yn cynnig yr ymateb canlynol i'r tri ar ddeg o argymhellion a gynhwysir ynddo.

 

Mae Bwrdd Rheoli Gwybodeg GIG Cymru (y Bwrdd Rheoli Gwybodeg) yn goruchwylio Technoleg a Rheoli Gwybodaeth yn GIG Cymru ac yn llywio'r agenda strategol ar gyfer system sy'n seiliedig ar ddata, sy'n cefnogi mynediad gwell i wybodaeth a chyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu gofal gyda thechnolegau digidol.  Diwygiwyd cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli Gwybodeg y llynedd.  Cafodd ei ddiben ei gryfhau i gwmpasu'r cyfrifoldeb dros gyflawni 'Iechyd a Gofal Gwybodus: strategaeth iechyd a gofal cymdeithasol ddigidol ar gyfer Cymru' (y Strategaeth). Mae'r Strategaeth yn nodi'r weledigaeth i '[d]rawsnewid sut y mae pobl Cymru, ein dinasyddion a’n staff, yn croesawu technoleg gwybodaeth fodern ac offer digidol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mwy diogel, mwy effeithlon a chyson i wella canlyniadau a phrofiadau cleifion a defnyddwyr gwasanaeth'.

 

Bwrdd Portffolio yw'r Bwrdd Rheoli Gwybodeg ac mae'n gyfrifol am gyflwyno rhaglenni (a phrosiectau) a sefydlwyd i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Iechyd a Gofal Gwybodus (y rhaglenni) ac mae'n creu amgylchedd lle y gall rhaglenni lwyddo i gyflawni'r newidiadau sy'n angenrheidiol er mwyn i'r manteision gael eu gwireddu.

 

Mae'r Bwrdd yn darparu sicrwydd a chyngor i Lywodraeth Cymru, ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Gweithredol GIG Cymru ar bob agwedd ar Dechnoleg a Rheoli Gwybodaeth.

 

 

Argymhelliad 1  Mae’r weledigaeth ar gyfer gwybodeg, sef creu cofnodion electronig am gleifion fesul cam yn glir ac roedd y rhesymwaith ar ei chyfer yn glir pan gafodd ei sefydlu gyntaf ar ôl strategaeth 2003. Fodd bynnag, mae’r farchnad a’r gymuned wybodeg wedi symud ymlaen yn sylweddol ers hynny. Dylai Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â’r Gwasanaeth Gwybodeg a chyrff y GIG, adolygu’r farchnad wybodeg i brofi a yw’n cynnig cyfleoedd newydd i wireddu nodau’r Strategaeth.

 

Derbyn - Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu adolygiad o'n dull o gynllunio seilwaith a systemau fel rhan o flaengynllun gwaith Bwrdd Rheoli Gwybodeg GIG Cymru (y Bwrdd Rheoli Gwybodeg) ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Bydd hyn yn cynnwys datblygu dealltwriaeth o'r hyn sydd ar gael ar y farchnad ar hyn o bryd ac arfer gorau.  

  

Argymhelliad 2  Mae GIG Cymru wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i geisio egluro ystyr

ymagwedd ‘Unwaith i Gymru’ at ddatblygu a lledaenu systemau gwybodeg. Dylai Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â’r Gwasanaeth Gwybodeg a chyrff y GIG:

 

a)    ddiffinio’n glir y cydbwysedd rhwng systemau cenedlaethol dan arweiniad y Gwasanaeth Gwybodeg a systemau sy’n cael eu harwain yn lleol, a beth yw cyfrifoldebau’r naill a’r llall;

b)    sicrhau bod cynlluniau gweithredu lleol a chenedlaethol yn cael eu diweddaru i adlewyrchu unrhyw oblygiadau ar gyfer cyllido, datblygu a lledaenu systemau gwybodeg yn sgil yr ymagwedd fwy eglur at Unwaith i Gymru; a

c)    blaenoriaethu datblygu set o safonau cyffredin er mwyn sicrhau bod systemau a gaffaelir neu a ddatblygir yn lleol yn gydnaws â systemau lleol eraill a’r systemau cenedlaethol.

Derbyn - Mae'r Bwrdd Rheol Gwybodeg wedi cytuno ar ddiffiniad ar gyfer 'Unwaith i Gymru' ac ar restr o wasanaethau a swyddogaethau sydd fwyaf addas ar gyfer y dull gweithredu.  Bydd y cydbwysedd a'r priod gyfrifoldebau rhwng systemau lleol a chenedlaethol yn cael eu hystyried ymhellach fel rhan o'r gwaith adolygu a ddisgrifir yn ein hymateb i Argymhelliad 1, a bydd yn llywio cynlluniau lleol a chenedlaethol. 

 

Bydd 'Bwrdd Safonau Technegol Cymru' yn cael ei sefydlu erbyn mis Mai 2018 a bydd yn canolbwyntio ar safonau Rhyngweithredu technegol. Bydd y Bwrdd yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru sydd â chyfrifoldeb dros ddata a safonau Gwybodaeth. Gyda'i gilydd, bydd y ddau Fwrdd hyn yn goruchwylio'r gwaith o gyflwyno a chynnal catalog o safonau a gofynion i alluogi integreiddio a rhyngweithredu ar draws pob system iechyd a gofal.

  

Argymhelliad 3  Gwelsom nad yw’r GIG wedi sefydlu blaenoriaethau clir ar gyfer gwybodeg. Dylai Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Gwybodeg a chyrff y GIG gytuno ar set glir o flaenoriaethau y mae modd eu cyflawni ar gyfer gwybodeg genedlaethol gan ochel rhag ychwanegu blaenoriaethau newydd heb ddadflaenoriaethu rhywbeth arall neu heb ychwanegu adnoddau newydd.

 

Derbyn - Fel y nodais yn fy ymateb cychwynnol a thrwy gymeradwyo'r adroddiad, rydym eisoes wedi datblygu proses flaenoriaethu well er mwyn gwneud y defnydd gorau o'r cyllid a chefnogi amrywiol systemau.  Yn ei gyfarfod ym mis Ebrill, bydd y Bwrdd Rheoli Gwybodeg yn ystyried Cynllun Cenedlaethol tymor byr a flaenoriaethwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu'r Bwrdd i barhau â'r gwaith blaenoriaethu, gan ystyried argymhelliad yr Adolygiad Seneddol i "aros, dechrau a chyflymu".  Bydd y Cynllun Cenedlaethol yn cynnwys proses, wedi'i goruchwylio gan y Bwrdd Rheoli Gwybodeg, i adolygu'r blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn, a bydd y Bwrdd hwn yn cynghori Bwrdd Gweithredol y GIG a Llywodraeth Cymru ar benderfyniadau ynglŷn â blaenoriaethu a buddsoddi.

 

 

Argymhelliad 4  Mae llawer o’r problemau a’r ystyriaethau ynglŷn â rhwystrau rhag gwneud cynnydd a welsom yn ystod ein gwaith maes yn rhai y sylwyd arnynt ers tro. Dylai Llywodraeth Cymru, cyrff y GIG a’r Gwasanaeth Gwybodeg gynhyrchu asesiad agored a

gonest o’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn sydd heb weithio hyd yn hyn a chynhyrchu cynllun clir a gyd-berchnogir er mwyn goresgyn y rhwystrau y gwyddys eu bod yn atal cynnydd. Dylai’r dogfennau hyn fod yn y parth cyhoeddus er mwyn i staff y GIG allu gweld bod eu pryderon wedi’u cydnabod a’u bod yn cael sylw.

 

Derbyn - Fel rhan o'n hadolygiadau o ddylunio seilwaith a systemau (Argymhelliad 1) a threfniadau llywodraethu (Argymhelliad 6), bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ein hymagwedd at ddatblygu a chyflwyno gwasanaethau a systemau.  Bydd hyn yn cynnwys asesiad o gynnydd hyd yma a sut y gellir goresgyn rhwystrau rhag cynnydd, a byddant yn cael eu datblygu fel rhan o flaengynllun gwaith y Bwrdd Rheoli Gwybodeg ar gyfer y flwyddyn i ddod.

  

Argymhelliad 5   Gwelsom fod cryn le i gryfhau arweiniad cenedlaethol a lleol ym maes gwybodeg ar draws y GIG. Dylai Llywodraeth Cymru:

 

a)    gydweithio â chyrff y GIG i ddatblygu opsiynau ar gyfer cryfhau’r gynrychiolaeth o’r maes gwybodeg ar lefel y bwrdd, gan gynnwys adolygu rhagoriaethau rôl Uwch

Swyddog Gwybodaeth Clinigol ar lefel y bwrdd (neu rywun mewn rôl gyfatebol);

b)    gweithio gyda chyrff y GIG i ddatblygu cynllun gweithredu clir er mwyn datblygu corff o uwch staff gwybodeg-glinigol, yn unol ag argymhellion adolygiad Wachter yn

Lloegr; a

c)    sylwi ar gyfleoedd i gryfhau’r llais gwybodeg ar y lefel uchaf yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys adolygu a ddylid, ac os felly, sut y dylid, cryfhau rolau Prif Swyddog Gwybodaeth GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodeg Cymru ym mhroses benderfynu strategol GIG Cymru.

Derbyn - Mae strwythur ac aelodaeth Byrddau'r GIG, gan gynnwys meddu ar y sgiliau a'r profiad cywir ar lefel Bwrdd, yn cael eu datblygu ymhellach yng ngoleuni'r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn 'Gwasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol'.  Mae rôl y Prif Swyddogion Gwybodaeth Glinigol eisoes yn cael ei sefydlu mewn sawl un o sefydliadau'r GIG.  Mae Prif Weithredwr GIG Cymru yn lansio rhaglen datblygu a rhwydwaith ar gyfer Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol ym mis Mawrth 2018.  Ystyrir rolau arwain a gofynion sgiliau ar draws system gwybodeg iechyd Cymru gyfan fel rhan o'r Adolygiad Llywodraethu a ddisgrifir o dan argymhelliad 6.

  

Argymhelliad 6  Gwelsom fod y trefniadau llywodraethu ar gyfer goruchwylio a herio’r

Gwasanaeth Gwybodeg yn wan. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at

Ymddiriedolaeth GIG Felindre’n gofyn iddi gryfhau’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodeg, credwn y dylai Llywodraeth Cymru werthuso’r opsiynau’n ehangach i gryfhau trefniadau llywodraethu a goruchwylio’r Gwasanaeth. Dylai’r trefniadau terfynol sicrhau bod:

 

a)    y perfformiad a’r cynnydd yn destun craffu annibynnol;

b)    bod y broses yn fwy tryloyw, gyda phapurau a chofnodion trafodaethau’n cael eu rhoi yn y parth cyhoeddus; a

c)    bod llinellau atebolrwydd clir rhwng y Gwasanaeth Gwybodeg a Phrif Weithredwr GIG Cymru a’r Ysgrifennydd Cabinet.

Derbyn - Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu rhaglen waith i ystyried y model llywodraethu sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth gwybodeg sy'n cefnogi trawsnewidiad digidol ledled Cymru er mwyn darparu gofal cleifion mwy diogel, o ansawdd uwch ac effeithiol, yn seiliedig ar ein hymateb i'r Adolygiad Seneddol, a'r Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr ydym yn ei ddatblygu ac a gaiff ei gyhoeddi yn y gwanwyn.  Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried gwaith craffu a thryloywder priodol, ynghyd â llywodraethu ac atebolrwydd cyffredinol.

  

Argymhelliad 7  Gwelsom nad yw’r adroddiadau cynnydd y bydd y Gwasanaeth Gwybodeg yn eu cyhoeddi ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd yn cynnig darlun cyflawn na chytbwys. Dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â’r Gwasanaeth Gwybodeg i wella’r adroddiadau am berfformiad er mwyn cynnig stori fwy cytbwys am yr hyn sy’n dda, ymhle mae yna anawsterau a pham. Dylai’r adroddiadau am berfformiad gynnwys gwybodaeth o’i gymharu â chynlluniau cychwynnol prosiectau, boddhad defnyddwyr a’u pryderon am wasanaethau cenedlaethol sydd ar gael eisoes yn ogystal â’r systemau newydd hynny sy’n cael eu lledaenu.

 

Derbyn - Mae adrodd ar gynnydd i'r Bwrdd Rheoli Gwybodeg wedi gwella'n ddiweddar, ac mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Gwasanaeth Gwybodeg i gyflwyno adroddiadau gwell yn ystod gwanwyn 2018.

 

 

Argymhelliad 8  Mae angen i Lywodraeth Cymru benderfynu a ddylid a sut y dylid darparu’r cyllid ychwanegol y mae cyrff y GIG a’r Gwasanaeth Gwybodeg wedi amcangyfrif y mae ei angen arnynt i wireddu’r weledigaeth ar gyfer cofnod electronig am gleifion. Dylai

Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad cost-budd llawn o’r buddsoddiad arfaethedig, gan gynnwys i ba raddau y gallai arbedion ariannol yn sgil systemau newydd ei gwneud yn bosibl ailgyfeirio cyllid oddi wrth wasanaethau sydd ar gael eisoes i’w fuddsoddi mewn systemau gwybodeg newydd.

 

Derbyn - Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad cadarn o'r buddsoddiad sydd ei angen a'r buddion busnes a ragwelir, ar y cyd â'r Gwasanaeth Gwybodeg a Chyfarwyddwyr Cyllid yn gwerthuso modelau cyllido amgen a chyfleoedd i wneud arbedion.  Bydd hyn yn cael ei lywio gan ganlyniad yr adolygiad o'n hymagwedd tuag at ddylunio seilwaith a systemau a ddisgrifir yn ein hymateb i Argymhelliad 1, a'r gwaith parhaus ar flaenoriaethu dan arweiniad y Bwrdd Rheoli Gwybodeg (Argymhelliad 3). 

  

Argymhelliad 9  Er gwneud cynnydd yn ddiweddar, mae lle o hyd i integreiddio cynllunio ariannol tymor canol ar gyfer gwybodeg ledled y GIG. Dylai Llywodraeth Cymru, drwy gydweithio â chyrff y GIG a’r Gwasanaeth Gwybodeg, osod cynlluniau ariannu clir y cytunir arnynt ar gyfer y tymor canol ar gyfer rhaglenni TGCh lleol a chenedlaethol. Dylai hyn gynnwys cydweithio rhwng cyrff y GIG a’r Gwasanaeth Gwybodeg cyn i gyrff y GIG gwblhau eu drafft cyntaf o’u cynlluniau tair blynedd treigl. Dylai hefyd ystyried unrhyw benderfyniad yn y dyfodol am y cyllid y bydd ei angen I wireddu’r strategaeth.

 

Derbyn - Mae Cynlluniau Tymor Canolig Integredig bellach wedi'u hen sefydlu, ac am y tro cyntaf, mae gennym Raglenni Amlinellol Strategol gan bob un o sefydliadau'r GIG, sy'n amlinellu eu blaenoriaethau a'n buddsoddiad ar gyfer y maes Gwybodeg.  Mae hyn yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddisgrifio datblygiadau digidol o fewn Cynlluniau Tymor Canolig Integredig a Rhaglenni Amlinellol Strategol. Mae

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau GIG eraill fel rhan o broses gynllunio Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, a hefyd drwy gyfarfodydd rheoli cyfrifon rheolaidd.  Mae datblygiad cydweithredol y Cynllun Cenedlaethol hefyd yn cyfrannu at waith cynllunio ag iddo fwy o ffocws.  

  

Argymhelliad 10  Mae’r Gwasanaeth Gwybodeg yn defnyddio’r dull Hyblyg fwyfwy wrth ddatblygu meddalwedd. Gallai defnyddio’r dull hwn fod o fudd o ran cwblhau gwaith o ansawdd yn brydlon, ond mae’n dibynnu ar ymgysylltu’n ddwfn â chlinigwyr a defnyddwyr eraill. Mae wedi bod yn anodd sicrhau bod hyn yn digwydd. Dylai’r Gwasanaeth Gwybodeg a chyrff y GIG gydweithio er mwyn:

 

a)    cryfhau’r berthynas rhwng datblygwyr a chlinigwyr, yn enwedig wrth gynllunio a phrofi systemau a swyddogaethau newydd, er mwyn sicrhau gwell cyd-ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ddymunol a’r hyn sy’n bosibl; ac

b)    ymgysylltu â rheolwyr i gael gwybod beth yw eu hanghenion o ran gwybodaeth, yn ogystal â beth yw anghenion clinigwyr.

 

Derbyn - Mae ymgysylltu â defnyddwyr drwy gylch cyfan datblygu system yn un o egwyddorion allweddol dylunio digidol da. Mae creu gwybodegwyr clinigol (gweler yr ymateb i Argymhelliad 5) o fewn sefydliadau'r GIG, yn darparu dolen gyswllt rhwng clinigwyr a datblygwyr, a bydd yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi gweithio hyblyg a gwell ymgysylltiad â rhanddeiliaid a defnyddwyr.  Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd yn cael ei ystyried fel rhan o'n hadolygiadau o ddylunio seilwaith a systemau (Argymhelliad 1) a llywodraethu (Argymhelliad 6), a thrwy ein gwaith parhaus ar y rhaglen i gyflawni'r Strategaeth.  

 

 

Argymhelliad 11  Mae’r Gwasanaeth Gwybodeg wrthi’n datblygu cynllun gweithlu ond nid oes ganddo gynllun llawn eto, ac mae’n dweud ei fod yn straffaglu i recriwtio a chadw uwch ddatblygwyr oherwydd cystadleuaeth o du’r sector preifat. Dylai Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Gwybodeg a chyrff y GIG gydweithio i archwilio opsiynau er mwyn sicrhau’r staff a’r datblygwyr TGCh profiadol sydd eu hangen ar y Gwasanaeth o fewn cyd-destun cynllun gweithlu cynhwysfawr a chan ystyried y staff TGCh sydd ar gael i gyrff y GIG.

 

Derbyn - Mae'r mater hwn yn ehangach na dim ond Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.  Mae'r anallu i recriwtio a chadw staff TGCh yn broblem ar draws y sector cyhoeddus yn gyffredinol.  Bydd creu Addysg a Gwella Iechyd Cymru ym mis Ebrill 2018, ynghyd â Sefydliad Arloesi Digidol Cymru a sefydlwyd yn ddiweddar (mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant) yn helpu i sicrhau a chadw lefel y sgiliau sydd eu hangen. Bydd y cysylltiadau gwell â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, er enghraifft, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a nodi cyfleoedd yn y sector preifat hefyd yn cyfrannu at hyn.

  

Argymhelliad 12  Gwelsom fod diffyg eglurdeb ynghylch pwy sy’n gyfrifol am wireddu’r buddion a fwriedir yn sgil systemau gwybodeg cenedlaethol a diffyg monitro. Dylai Llywodraeth Cymru, cyrff y GIG a’r Gwasanaeth Gwybodeg gydweithio i sicrhau bod:

 

a)    y cyfrifoldeb am wireddu’r buddion yn cael ei ddyrannu’n glir; a

b)    bod cyfrifoldebau a phrosesau clir ar waith ar gyfer monitro’r cynnydd ac adrodd yn ei gylch wrth wireddu’r buddion hynny.

 

Derbyn - Mae'r Bwrdd Rheoli Gwybodeg, drwy ffrwd waith y dyfodol Strategaeth Cyflawni'r Rhaglen, wedi datblygu fframwaith cyffredin ar gyfer disgrifio a mesur y buddion.  Mae rhagor o waith ar y gweill i adolygu pecyn cymorth adnabod buddion presennol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a chofrestru a nodi gwelliannau posibl i berchnogaeth, mesur a gwireddu'r buddion.  Mae gwaith eisoes ar y gweill i wella'r broses o lunio Achos Busnes, a fydd yn sicrhau gwell buddion a gwell perchnogaeth o'r buddion, ynghyd âr gallu i'w nodi a'u gwireddu'n well yn unol â'r fframwaith hwn.  

 

 

Argymhelliad 13  Gwelsom fod llawer o’r staff yn y GIG yn rhwystredig ynglŷn â rhai o nodweddion ac ansawdd systemau gwybodeg cenedlaethol. Mae gan y Gwasanaeth Gwybodeg broses ar gyfer diweddaru systemau cenedlaethol, ond mae pryderon am yr arafwch a’r diffyg adborth ac fe allai’r Byrddau Cynghori am Newidiadau eu hunain weithio’n fwy effeithiol. Dylai’r Gwasanaeth Gwybodeg adolygu ei broses ar gyfer rheoli ceisiadau am newidiadau ac os oes angen, dylid newid pethau er mwyn:

 

a)    rhoi adborth eglurach i’r gwasanaeth am sut yr ymdriniwyd â’u ceisiadau ac a ellir disgwyl newidiadau a pha bryd;

b)    parhau i fod yn agored i fân newidiadau a allai gael effaith sylweddol ar wella’r ffordd y bydd defnyddwyr yn defnyddio’r systemau a’u barn amdanynt; a

c)    darparu agendâu a rhaglenni gwaith ar gyfer y Byrddau Cynghori am Newidiadau i sicrhau eu bod yn canolbwyntio rhagor ar alluogi gwelliannau I systemau sy’n cael effaith.

 

Derbyn - Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at y Gwasanaeth Gwybodeg i ofyn iddo weithio mewn partneriaeth â'u rhanddeiliaid i adolygu eu proses ar gyfer rheoli ceisiadau am newidiadau.  Bydd cynnydd ar hyn yn cael ei fonitro gan Lywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd misol gyda Chyfarwyddwr y Gwasanaeth Gwybodeg.  Bydd ein hadolygiadau i ddylunio'r seilwaith a systemau (Argymhelliad 1) a llywodraethu (Argymhelliad 6) yn helpu i fynd i'r afael â'r argymhelliad hwn.  

  

 

Yn gywir 

 

 

Dr Andrew Goodall

  

 

 

copïau at:      Nick Ramsay AC, Cadeirydd, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Arloesi, y Grŵp Iechyd a

Gwasanaethau Cymdeithasol

David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad 

 

 

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus / Public Accounts Committee PAC(5)-08-18 P4 

Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/

Prif Weithredwr GIG Cymru

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Director General Health and Social Services/

NHS Wales Chief Executive

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Vaughan Thomas

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

22 Ionawr 2018

Annwyl Huw

Archwiliad Gwerth am Arian yr Archwilydd Cyffredinol: Systemau Gwybodeg yn GIG Cymru  

Diolch ichi am eich adroddiad ar systemau gwybodeg yn GIG Cymru.  Rwyf yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae tîm yr astudiaeth wedi'i wneud ar hyn dros y 18 mis diwethaf.

Rwyf yn falch o  weld bod yr adroddiad yn cydnabod bod gan GIG Cymru weledigaeth glir ar gyfer y cofnod electronig am gleifion yng Nghymru ac, er fy mod yn cydnabod ein bod yn  wynebu rhai heriau, rwyf yn hyderus ein bod wedi gwneud camau breision, hyd yn oed yn yr amser ers i'ch tîm gyflawni'r adolygiad, a byddwn yn parhau i yrru gwelliannau yn y dyfodol.

Yn ystod trafodaethau cynnar, cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru'n ymateb i'r adroddiad mewn dau gam. Bwriad hyn yw adlewyrchu'r ffaith bod cwmpas yr adolygiad yn ehangach na Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac fel y cyfryw, mae angen inni ymgysylltu â GIG Cymru a sicrhau bod ein hymateb yn adlewyrchu'r farn ehangach; ac i gydnabod y bydd cyhoeddi'r Adolygiad Seneddol  o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru hefyd yn llywio ein hymateb.

Mae'r ymateb cychwynnol hwn yn cydnabod y canfyddiadau allweddol ynghylch yr anawsterau sydd ynghlwm wrth sicrhau cyllid digonol i fwrw ymlaen â'r weledigaeth; yr angen i gryfhau prosesau blaenoriaethu; a'r angen i adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer NWIS. 

Rydym eisoes wedi cael trafodaethau helaeth am ganfyddiadau allweddol yr adolygiad gyda Chyfarwyddwr NWIS a Phrif Weithredwr arweiniol y GIG dros Wybodeg ac rydym yn ystyried adolygiad ehangach o dirlun llywodraethu gwybodeg.  

Mae cyllid a blaenoriaethu gwaith yn  gysylltiedig â'i gilydd yn annatod ac felly mae'r gwaith ar flaenoriaethu a'r Cynllun Cenedlaethol, sy'n cael eu goruchwylio gan Fwrdd Rheoli

Ffôn  Tel 0300 0251182

                                                                                                       Parc Cathays Cathays Park                   Andrew.Goodall@llyw.cymru

Caerdydd Cardiff

                                                                                                                                     CF10 3NQ    Gwefan website: www.wales.gov.uk

Gwybodeg GIG Cymru (NIMB), sy'n cynnwys aelodau gweithredol o gyrff y GIG sy'n gyfrifol am Wybodeg, cynrychiolwyr NWIS ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, yn allweddol.  Mae'n glir hefyd nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig ei ystyried yw hwn, gan mai mater i'r GIG yn bennaf yw'r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu yng nghyrff y GIG.

 

Bydd trafodaeth bellach â Phrif Weithredwyr y GIG ac uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ym Mwrdd Gweithredol GIG Cymru ar 30 Ionawr, ac mae aelodau NIMB yn ystyried beth y mae'r adroddiad yn ei olygu i'w cyrff, gydag eitem sylweddol ar adroddiad yr agenda ar gyfer cyfarfod NIMB ar 15 Chwefror. 

 

Mae swyddogion hefyd yn adolygu canfyddiadau'ch adolygiad ochr yn ochr â chanfyddiadau'r Adolygiad Seneddol. 

 

Bydd yr holl weithgareddau hyn yn cyfrannu at ymateb cydweithredol, gwybodus a chynhwysfawr i'ch adolygiad y byddaf yn ei ddarparu erbyn 2 Mawrth.  

 

Rwyf yn ymwybodol y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ystyried ei ymateb i'r adroddiad yn ei gyfarfod ar 29 Ionawr ac fe gaiff copi o'r llythyr hwn ei anfon at gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i hwyluso hynny.

 

Yn gywir 

 

 

Dr Andrew Goodall

 

copïau at: Nick Ramsay AC, Cadeirydd, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Frances Duffy, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Arloesi, y Grŵp HSS David Richards, Cyfarwyddwr Llywodraethu a Pherfformiad